Cwtogi ar wasanaethau cerdd Wrecsam yn sefyllfa 'drist'
Fe fydd Cynghorwyr Sir Wrecsam yn penderfynu ddydd Mawrth a fyddan nhw'n torri nôl ar wasanaethau cerdd mewn ysgolion.
Mae dros 15,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw arnyn nhw i ail-ystyried.
Mae'n rhan o'r ymdrechion i arbed £4.5m yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae cerddorion a'r rheini sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "drist".
Dyma adroddiad Dafydd Evans.