'Torcalonnus' gweld y tŷ dan ddŵr
Mae bron i 10,000 o gartrefi yng Nghymru wedi eu hyswirio dan gynllun newydd Flood Re, sy'n ceisio lleihau'r gost i bobl sy'n byw lle mae risg o lifogydd.
Menter rhwng Llywodraeth y DU ac yswirwyr yw'r cynllun, sy'n galluogi arallgyfeirio'r elfen o bolisi yswiriant sy'n ymwneud a llifogydd, gan olygu bod perchnogion cartref yn talu llai.
Un cwpl sy'n aros i elwa o'r cynllun yw Melfyn a Glenda Jones.
Roedd eu cartref dan ddŵr wedi'r llifogydd yn Rhostryfan yn 2012, profiad mae Glenda Jones yn cofio yn glir.