Pryder am ddyfodol banciau Aberteifi

Cafodd cyfarfod ei gynnal yn Aberteifi nos Iau i rannu pryderon cyn i gangen banc Natwest y dre gau fis Mai.

Yn ôl Natwest, maen nhw'n ymateb i'r cwymp yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r canghennau. Maen nhw'n cynnig ffyrdd gwahanol o fancio ar-lein, dros y ffôn a thrwy eu canolfannau symudol.

Mae 'na dri banc arall yn Aberteifi ond y pryder ydi y gall eu dyfodol nhw fod yn y fantol.

Dyma adroddiad Iwan Griffiths.