Materion Cymreig yn 'agos at galon' Stuart Andrew

Mae is-weinidog newydd yn Swyddfa Cymru wedi dweud y bydd yn "ymdrechu" i wneud y swydd a pharhau i gynrychioli ei etholwyr yn Sir Efrog.

Cafodd Stuart Andrew, AS Ceidwadol Pudsey, ei benodi'n is-weinidog yn ad-drefniad Theresa May.

Ar Sunday Politics Wales, soniodd ei fod wedi ei fagu yng Nghymru, a bod buddiannau Cymru yn "agos at ei galon".

Bydd Sunday Politics Wales ar BBC1 am 11:00 ar 21 Ionawr.