Gofal dementia: 'Brwydr sy'n cael ei cholli'
Mae'r frwydr i ofalu am gleifion dementia a chefnogaeth i'w gofalwyr yn cael ei cholli, yn ôl un ddynes sy'n gofalu am ei thad oedrannus.
Dim ond 10 diwrnod o ysbaid mae Ceri Higgins o Bontypridd wedi ei gael ers iddi fod yn gofalu am ei thad.
Ac ar ddechrau wythnos Gofalwyr Newyddion 9, mae elusen Alzheimers Cymru yn dweud bod 90% y cant o ofalwyr sy'n byw gyda phobl â dementia, yn teimlo dan straen, a bod y pwysau'n cael effaith negyddol ar les ac iechyd 67% o ofalwyr.