Galw am hyfforddiant sespis i weithwyr iechyd
Yn sgil cynnydd o 10% yn y tair blynedd diwethaf yn nifer yr achosion o sepsis yn ysbytai Cymru, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhoeddi argymhellion yn galw am hyfforddiant gorfodol i wella ymwybyddiaeth staff y gwasanaeth iechyd ynglŷn â'r cyflwr.
Mae'n cael ei achosi wrth i'r corff ymateb yn niweidiol i heintiau ac mae'n gallu achosi i'r organau fethu'n llwyr.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y ffigyrau'n cydfynd â'r nifer uwch o gleifion hŷn sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, a bod y nifer wnaeth farw o sepsis wedi gostwng yn yr un cyfnod.
Fe gafodd Prydwen Elfed Owens o Wrecsam sepsis ddwy flynedd a hanner yn ôl ac fe fu'n trafod ei phrofiad gyda Lois Angharad ar raglen Newyddion 9.