Targedu'r parciau cenedlaethol 'o hyd ac o hyd'

Mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyhuddo o orfodi toriadau mawr ar barciau cenedlaethol y wlad, tra bod cyllidebau tirweddau dynodedig Lloegr wedi'u gwarchod.

Tra'n cydnabod bod y setliad ariannol yn "heriol", mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod yn rhoi mwy o arian ar gyfer prosiectau sy'n flaenoriaeth a'u bod yn ystyried rhoi rhagor o gefnogaeth debyg yn y dyfodol.

Mae disgwyl i'r cymorth ariannol i dri pharc cenedlaethol Cymru syrthio i'w lefel isaf ers 2001.

Yn ôl prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams, mae'r sefyllfa'n "frawychus" ac yn golygu bod penderfyniadau anodd ar y gorwel.