Addysg prifysgol 'ddim i bob un'

Does yna ddim digon yn cael ei wneud mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth am ystod y gyrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu, yn ôl adroddiad newydd.

Mae adolygiad o gymwysterau yn y maes hefyd yn dweud bod siaradwyr Cymraeg yn aml yn osgoi cyflawni gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg achos bod yr iaith yn gymhleth.

Mae Rhys Fisher yn gweithio gyda Cyfle Building Skills, cynllun sy'n cynnig prentisiaethau i bobl ifanc fel eu bod yn gallu mynd ymlaen i gael gwaith.

Mae'n dweud fod y diwydiant yn cynnig sawl opsiwn i ddisgyblion ar ôl iddyn nhw adael yr ysgol.