Cyfarwyddwr clinigol: 111 yn lleihau pwysau ar ysbytai
Bydd rhif ffôn newydd sy'n caniatáu i gleifion gysylltu â'r gwasanaeth iechyd yn haws ar gael dros Gymru gyfan ymhen tair blynedd.
Mae'n golygu y bydd cleifion yn gallu cael gafael ar driniaeth, cymorth a chyngor y gwasanaeth iechyd drwy ddeialu un rhif - 111 - lle bynnag maen nhw'n byw.
Mae'r gwasanaeth eisoes ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac yn Sir Gaerfyrddin, gyda rheolwyr yn dweud fod ymateb "gwych" wedi bod gan gleifion.
Yn ôl Dr Stephen Bassett, cyfarwyddwr clinigol y gwasanaeth allan o oriau Abertawe Bro Morgannwg, mae'r system wedi lleihau pwysau ar ysbytai drwy awgrymu triniaethau eraill sydd ar gael i gleifion.