Peidio parhau ag Erasmus yn 'wastraff enfawr'

Fe ddylai'r DU "ystyried yn ddifrifol" sefydlu cynllun astudio dramor ei hun i gymryd lle cynllun yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl pennaeth prifysgol fwyaf Cymru.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan ei fod yn "gwbl o blaid" myfyrwyr yn astudio a gweithio dramor ond bod rhaglen Erasmus+ yr UE yn "gymharol anhyblyg".

Ond mae Dr Hywel Ceri Jones, cyd-sylfaenydd y rhaglen Erasmus gychwynnol a chyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd, yn dweud y byddai'n "wastraff enfawr" os nad yw Cymru'n sicrhau mynediad i'r cynllun yn dilyn Brexit.