'Teimlad fod y Gymraeg ddim yn rhan o wasanaeth iechyd'

Ni fydd raid i feddygon teulu ddarparu gwasanaethau i gleifion yn y Gymraeg dan gynlluniau newydd fydd yn cael ei rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth.

Mae rhaglen 'Newyddion 9' yn deall y bydd y safonau yn eithrio meddygfeydd, deintyddion, fferyllfeydd ac optegwyr.

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws eisoes wedi dweud ei bod yn hanfodol cynnwys y rheini hefyd.

Mae Dr Mared Dafydd yn feddyg teulu, ac mae hi'n credu fod "angen safonau" iaith yn y gwasanaeth iechyd a gofal cyhoeddus.