Dŵr Cymru: 'Peidiwch â gadael tapiau dŵr i redeg'
Mae miloedd o dai Cymru heb ddŵr ar ôl i bibau fyrstio wedi'r tywydd oer diweddar.
Yn y gogledd a Cheredigion mae mwyafrif y cartrefi.
Mae Dŵr Cymru yn gofyn i'w cwsmeriaid beidio â gwastraffu dŵr ac i berchnogion busnesau gadw golwg ar eu hadeiladau rhag ofn fod pibau yn byrstio.
Alun Shurmer yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu Dŵr Cymru.