Toriadau addysg yn golygu lleihau staff

Mae yna "argyfwng cudd" yn wynebu ysgolion Cymru oherwydd diffyg arian, medd penaethiaid.

Yn ôl y prifathrawon mae'n bosib bod safonau wedi eu heffeithio'n barod ac mae BBC Cymru yn deall bod mwy o swyddi yn debygol o gael eu colli.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn blaenoriaethu cyllid i gynghorau er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd ysgolion yn uniongyrchol.

Yn ôl prifathro Ysgol y Preseli yng Nghrymych, Michael Davies, mae'r toriadau wedi golygu llai o fuddsoddi mewn technoleg gwybodaeth yn yr ysgol a thorri 'nôl ar wresogi adeiladau.

Ond bellach mae'n rhaid lleihau nifer y staff - "yr adnodd pwysicaf yn yr ysgol" - meddai.