Carwyn Jones yn gefnogol o Lywodraeth y DU ar Rwsia
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn "gefnogol" o'r hyn mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn sgil achos o wenwyno cyn-ysbïwr o Rwsia yng Nghaersallog.
Dywedodd Mr Jones hefyd ei fod yn teimlo fod arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn wedi'i drin yn "annheg" a'i fod wedi dweud yn "glir ei fod yn condemnio'r hyn a ddigwyddodd".
Daw sylwadau Mr Jones ar ôl i lefarydd Llafur ar amddiffyn, Nia Griffith AS ddweud wrth y BBC fore Mercher ei bod hi'n "llwyr gefnogi mesurau'r llywodraeth i ddiarddel 23 o ddiplomyddion Rwsia o'r DU".
Fe wnaeth Ms Griffith ei sylwadau ar ôl i nifer o ASau Llafur, gan gynnwys tri o Gymru, anghytuno ag ymateb Mr Corbyn i ddatganiad Theresa May ar achos gwenwyno'r cyn-ysbïwr Sergei Skripal a'i ferch, Yulia.