Yr her o wyna yng nghanol yr eira

Fe ddeffrodd rhannau helaeth o Cymru dan garthen o eira fore Sul.

I rai yn y de a'r canolbarth, doedd yr eira ddim yn annisgwyl wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd oren dros y penwythnos.

I eraill serch hynny, gan gynnwys Geraint Roberts sy'n ffermio ar ochrau'r Berwyn, roedd yr olygfa'n dipyn o sioc... ac yn dipyn o her.