Aberteifi: Cynghorydd yn 'diolch i'r gwasanaethau brys'

Mae Cynghorydd Aberteifi wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb i ddigwyddiad yn Afon Teifi ddydd Llun.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod wedi achub plentyn o gar yn Afon Teifi ar ôl apêl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd sawl sylw ar y cyfryngau cymdeithasol gan fam yn dweud fod rhywun wedi dwyn ei char yn Aberteifi gyda'i phlentyn tair oed ynddo ar y pryd.

Fe wnaeth Ambiwlans Awyr Cymru gadarnhau fod y plentyn wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond does dim manylion pellach am ei gyflwr.