Marwolaeth merch yn 'newyddion torcalonnus' i Aberteifi

Mae merch fach gafodd ei darganfod mewn car yn Afon Teifi, Aberteifi, brynhawn Llun, wedi marw.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod Kiara Moore, dwy oed, wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael ei hedfan yno.

Dywedodd Catrin Miles, sy'n gynghorydd yn Aberteifi, wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ei fod yn "newyddion torcalonnus" i'r dref.