'Tipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol'

Mae 'na bryderon am sbwriel sy'n cael ei adael yn anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig yn ne Cymru.

Cafodd y llanast yma ei adael ar ochr ffordd rhwng Merthyr Tudful a Chwm Bargoed.

Mae'r Cynghorydd Andrew Barry wedi dweud bod yr hyn sy'n cael ei adael yn agoriad llygad, a'i fod fel "tipio anghyfreithlon ar raddfa ddiwydiannol" wrth i soffas, rhewgelloedd a bagiau bin gael eu gadael ar y ffordd wrth ochr y mynydd.

Mae'r llecyn yn un sy'n denu nifer o gerddwyr a beicwyr ac mae 'na ofnau fod y sbwriel yn cadw pobl draw.

Mae'n bosib bellach i swyddogion cyngor Merthyr roi cosb benodol o £400 am dipio yn anghyfreithlon.

Fe gafodd cynghorwyr yr hawl i gosbi wedi 2,045 o gwynion am adael sbwriel yn anghyfreithlon yn yr ardal ers Ebrill 2017.