'Gallai S4C dreblu ei hincwm drwy weithio'n wahanol'

Does dim angen rhagor o arian ar S4C er mwyn iddyn nhw gynnig mwy o wasanaethau digidol, yn ôl adroddiad annibynnol ar ddyfodol y sianel.

Ond mae awdur yr adolygiad, Euryn Ogwen Williams, yn dweud bod angen newid y ffordd mae S4C yn cael ei reoli.

Dywedodd wrth ohebydd BBC Cymru, Ellis Roberts, y gallai'r sianel dreblu ei hincwm pe byddai'n newid ei ffordd o weithio i roi mwy o bwyslais ar elfennau digidol.

Mae Llywodraeth y DU wedi croesawu pob un o argymhellion yr adroddiad, tra bod S4C wedi "croesawu dymuniad y llywodraeth i sicrhau sefydlogrwydd ariannol" i'r sianel.