Harding: Gobeithio ysbrydoli gydag ymgyrch Cwpan y Byd

Byddai cyrraedd Cwpan y Byd yn "enfawr" ac yn gyfle i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched i chwarae pêl-droed, yn ôl chwaraewr Cymru, Natasha Harding.

Roedd Natasha Harding yn siarad cyn i Gymru wynebu Lloegr yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Gwener.

Mae Cymru ar frig Grŵp A ar hyn o bryd, pwynt o flaen Lloegr - sydd wedi chwarae un gêm yn llai.