'Dim rheswm' am achos profion TB yn erbyn ffermwr

Dylai achos ffermwr oedd wedi'i gyhuddo o ymyrryd â phrofion TB ar ei wartheg ddim fod wedi cyrraedd y llys, ym marn ei gyfreithiwr.

Cafodd Hefin Owen o Gastellnewydd Emlyn ei ddyfarnu'n ddieuog o bob cyhuddiad yn ei erbyn yr wythnos ddiwethaf.

Mae'n dweud i'r achos gael effaith ddychrynllyd - yn ariannol ac emosiynol - ar ei deulu ifanc, ac mae'n galw am ailedrych ar y drefn o brofi am y diciâu. Y stori'n llawn gan Aled Scourfield.