Rheolwr Rhug: 'Pryder' am gadw defaid ar ôl Brexit
Mae un o ffermydd mwyaf Cymru wedi dechrau cadw ceirw oherwydd eu bod yn "bryderus" am ddyfodol y diwydiant cig oen ar ôl Brexit.
Ystâd Rhug ger Corwen yn Sir Ddinbych yw un o'r cyflenwyr amlycaf o ŵyn organig ym Mhrydain.
Gohebydd Amgylcheddol BBC Cymru, Steffan Messenger, fu'n holi Gareth Jones, rheolwr fferm Rhug.