Disgyblion yn 'gadael addysg Gymraeg' i osgoi'r Fagloriaeth

Mae 'na rybudd bod rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gadael addysg Gymraeg er mwyn osgoi dilyn Bagloriaeth Cymru.

Yn ôl undeb athrawon UCAC, ysgolion Cymraeg sy'n dioddef fwyaf, wrth i rai ysgolion a cholegau addysg bellach ystyried peidio gwneud y cymhwyster yn orfodol.

Dim ond dweud bod disgwyl i ysgolion a cholegau gynnig y cymhwyster y mae Llywodraeth Cymru.

Mae'n sefyllfa drist iawn yn ôl un prifathro - adroddiad gan Rhodri Llywelyn.