Pryder am ddyfodol dwy ysgol gynradd yn Abertawe

Mae'n bosib y bydd dwy ysgol gynradd yn ardal Abertawe yn gorfod cau oherwydd prinder disgyblion.

Yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre mae mwy o athrawon a llywodraethwyr yno na sydd o blant.

Mae Cyngor Abertawe wedi ysgrifennu at y rhieni, ac at rieni disgyblion Ysgol Craig Cefn Parc i ddweud bod eu dyfodol dan ystyriaeth. Rhys Williams sydd â'r stori.