Llyncdwll yn achosi 'problemau mawr' i ganolfan arddio

Bydd rhan o ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin yn parhau ynghau tan ddydd Llun wedi i dwll mawr ymddangos yn y ffordd ddydd Mercher.

Maw'r ffordd ynghau rhwng Heol Rhos a'r A482 yn Llanwrda oherwydd bod y llyncdwll yn beryglus i yrwyr.

Dywedodd John Morgan, perchennog canolfan arddio Ystrad Nurseries yn Llanymddyfri, bod y digwyddiad wedi achosi "problemau mawr" i'w fusnes.

Ychwanegodd ei fod yn amcangyfrif bod y ganolfan, sydd oddi ar yr A40, yn colli hyd at £8,000 y diwrnod tra bo'r ffordd ar gau, a hynny ar "wythnos bwysica'r flwyddyn" i'r ganolfan.

Gohebydd BBC Cymru, David Grundy fu'n ei holi.