Galw am bwyllo cyn cau ysgolion gwledig ym Môn
Mae ymgyrchwyr sy'n ceisio atal cynlluniau i gau dwy ysgol wledig ar Ynys Môn wedi galw ar gyngor yr ynys i bwyllo cyn gwneud penderfyniad.
Bydd aelodau pwyllgor craffu yn trafod tynged ysgolion Bodffordd a Henblas cyn i'r pwyllgor gwaith ystyried y mater cyn diwedd y mis.
Mae Cymdeithas yr Iaith a thrigolion lleol yn dweud y dylai unrhyw benderfyniad gael ei ohirio nes bod canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ynglŷn â chau ysgolion yng nghefn gwlad yn dod i rym.
Adroddiad Sion Tecwyn.