Bagloriaeth Cymru'n 'anodd i'w hegluro a'i disgrifio'

Mae adroddiad newydd yn dweud bod Bagloriaeth Cymru, gafodd ei gyflwyno gyntaf yn 2007, yn rhy gymhleth ac mae nifer o ddisgyblion, athrawon a rhieni yn cael trafferth ei deall.

Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod ei dyluniad yn "gymhleth" gydag agweddau'n cael eu "gor-hasesu".

Ond mae Cymwysterau Cymru, y corff sy'n rheoleiddio cymwysterau yn dweud bod y sgiliau sydd wrth wraidd y fagloriaeth yn berthnasol iawn i'r dyfodol ar gyfer astudiaethau pellach a chyflogaeth.

Mae'r corff er hynny yn argymell symleiddio strwythur y cymhwyster a gwella ymwybyddiaeth ohoni fel y dywed Emyr George, Cyfarwyddwr Cymwysterau Cyffredinol gyda Cymwysterau Cymru.