Dioddefwyr ymosodiad Manceinion 'wir angen cefnogaeth'
Roedd "gwir angen" cefnogaeth sefydliad dioddefwyr ar bobl yng ngogledd Cymru wedi'r ymosodiad ar Fanceinion y llynedd, yn ôl y comisiynydd heddlu a throsedd.
Mae Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr y gogledd wedi helpu 17 o unigolion o wyth teulu yn dilyn y digwyddiad ar 22 Mai.
Dywedodd y comisiynydd, Arfon Jones, bod y ganolfan wedi rhoi "cefnogaeth emosiynol ac ymarferol" iddyn nhw - ond mae'n cyfadde' bod lle i hyrwyddo gwaith y ganolfan yn ehangach.
Yn ôl un teulu o Ddolgellau, oedd yn arena Manceinion adeg y ffrwydrad, fe gawson nhw gymorth gan feddyg teulu a'r ysgol, ond doedden nhw ddim yn ymwybodol o waith y ganolfan.
Soniodd Rhiell Elidir bod ei merch 12 oed, Gwenno, wedi dechrau clywed lleisiau oedd yn ei beio hi am y gyflafan rai misoedd wedi'r digwyddiad. Mae hi bellach yn teimlo'n well wedi iddi gael cymorth.