Gofal seibiant: 'Straen' gwraig sy'n gofalu am ei gŵr

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am newidiadau sylfaenol i wasanaethau gofal seibiant yng Nghymru.

Daw'r ymgyrch yn dilyn cyhoeddi adroddiad yn trafod profiadau unigolion sy'n cael eu heffeithio gan ddementia.

Mae June Williams, o Flaenau Ffestiniog, yn gofalu am ei gŵr Meirion, sydd â dementia.

Ers ei ddiagnosis dwy flynedd yn ôl, mae bywyd June wedi'i drawsnewid, ac mae'r angen am seibiant er mwyn gallu ymdopi yn y tymor hir yn "hanfodol".

Mae'r teulu wedi gorfod dibynnu ar ganolfan ymhell o'u cartre', yn Llanrwst, er mwyn i June gael seibiant ac mae hi'n dweud bod gwir angen am ddarpariaeth yn fwy lleol.