Figaniaeth: 'Rhaid i'r diwydiant ddal i fyny'
Mae'r Gymdeithas Figanaidd yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod opsiynau figan ar gael mewn llefydd fel ysgolion ac ysbytai.
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae mwy a mwy o bobl yn dewis bwyta diet figanaidd ond dyw hynny ddim wastad yn cael ei adlewyrchu yn y dewis sydd ar gael mewn ffreuturau.
Mae'r elusen yn amcangyfrif bod tua hanner miliwn o figaniaid yn y DU, gydag ymgyrchoedd fel Veganuary yn mynd yn fwyfwy poblogaidd.
Yn ôl y deietegydd arbenigol, Sioned Quirke, mae'n bryd i'r diwydiant bwyd a'r archfarchnadoedd ehangu eu darpariaeth o fwyd figan.