WWF yn galw am wahardd plastig un tro erbyn 2025
Ddydd Mawrth fe fydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cynlluniau i leihau'r defnydd o gynnyrch plastig sy'n cael ei daflu.
Un ohonynt yw cyflwyno cynllun blaendal ar gyfer poteli diod ar y cyd gyda gweddill y DU, gyda'r arian yn cael ei rhoi yn ôl i gwsmeriaid os ydyn nhw'n dychwelyd eu poteli.
Bydd y cyhoedd hefyd yn gweld mwy o lefydd cyhoeddus i gael dŵr am ddim.
Ond mae elusennau amgylcheddol yn annog gweinidogion i weithredu'n gyflym.
Mae Heini Evans o'r mudiad WWF eisiau gweld gwaharddiad ar blastig sydd ond yn cael ei ddefnyddio unwaith erbyn 2025 ond hefyd yn dweud bod yna fesurau eraill y byddai modd eu mabwysiadau yn y blynyddoedd cyn hynny.