Galw am gymorth i ddioddefwyr meigryn cronig

Mae meddyg teulu sy'n dioddef o feigryn cronig wedi galw am ragor o help i bobl yng Nghymru sy'n delio â'r cyflwr.

Yn ôl Dr Anna Maclean - sy'n dioddef o gur pen difrifol am o leiaf 15 diwrnod bob mis - does dim arbenigedd yng Nghymru ac fe all dioddefwyr deimlo'n ynysig.

Fe wnaeth y meddyg o Gaerdydd golli ei swydd o ganlyniad i'r cyflwr, a bu'n rhaid iddi fynd i Lundain am driniaeth.

Iwan Griffiths aeth i'w holi ar ran BBC Cymru.