Pryder am effaith rheolau newydd ar sioeau amaethyddol
Wrth i dymor y sioeau amaethyddol ddechrau mae 'na rybudd bod rheolau newydd i atal clefydau fel y diciâu rhag lledaenu yn peryglu dyfodol sioeau bach.
Mae'r rheolau'n golygu bod rhaid i ffermwyr sy'n arddangos gwartheg mewn sioeau gadw'u hanifeiliaid ar wahân i weddill yr anifeiliaid.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw wedi creu'r rheolau newydd ar gais y diwydiant amaeth er mwyn gadael i berchnogion fynd â'u da i nifer o sioeau gwahanol.
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi gweithio'n agos gydag undebau i greu'r rheolau hynny.
O Sioe Nefyn, dyma adroddiad Siôn Pennar.