'Ma' rhedeg yn help os yw bywyd yn anodd'

Mae grŵp rhedeg wedi cael ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin i helpu pobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl, yn cynnwys iselder, gorbryder a PTSD.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae'r grŵp o 11 o redwyr yn cael ei arwain gan hyfforddwyr rhedeg arbenigol o Athletau Cymru, a gweithwyr ym maes iechyd meddwl.

Maen nhw bellach yn paratoi i redeg Hanner Marathon Abertawe ym mis Mehefin.

Ddeg wythnos ers cyfarfod am y tro cyntaf, mae'r grŵp wedi cwblhau rhediad o 10 milltir - y pellter mwyaf cyn y ras.

Sharon Leech, hyfforddwr, ac Angharad Griffiths sy'n sôn am fudd y cynllun.