'Heathrow'n brosiect ar gyfer pob rhan o'r DU'
Dydd Iau, daeth swyddogion sy'n ystyried canolfannau posib fydd yn rhan o waith ehangu maes awyr Heathrow i'r gogledd ddwyrain i glywed am y lleoliadau posib sydd dan ystyriaeth yng Nghymru.
Roedd yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates, ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yno i gwrdd â nhw.
Mae sawl safle yng Nghymru ar y rhestr fer i fod yn un o bedair canolfan logisteg ar gyfer Heathrow, gan gynnwys Caerdydd, Glannau Dyfrdwy, Casnewydd, Glyn Ebwy a Phen-y-bont ar Ogwr.
Yn ôl Mr Cairns, byddai denu un o'r canolfannau'n fuddiol iawn i Gymru.