Chweched dosbarth: 'Colegau'n cynnig cyfleoedd eang'

Mae toriad o dros £20m wedi bod i gyllideb chweched dosbarth ysgolion dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod y gostyngiad yn bennaf o ganlyniad i newidiadau demograffig, a bod mwy yn dewis astudio mewn colegau neu'n dechrau hyfforddiant.

Dywedodd prif weithredwr Coleg Cambria, David Jones nad yw am weld dosbarthiadau chweched yn diflannu o bob ysgol yng Nghymru, ond bod yr addysg ôl-16 sydd ar gael mewn colegau yn fwy arbenigol.