Iechyd meddwl: 'Egluro teimladau mewn ail iaith yn rwystr'

Dydy gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl myfyrwyr drwy'r Gymraeg ddim yn digwydd yn ddigon cyflym nac yn ddigon eang, yn ôl undebau.

A hithau'n Wythnos Iechyd Meddwl, mae swyddogion o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC), sy'n cynrychioli holl undebau myfyrwyr Cymru, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru'n mynegi pryderon am gyllido, diffyg staff cymwys a diffyg gwasanaethau digidol.

Swyddog y Gymraeg Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Mirain Llwyd Roberts sy'n esbonio'r trafferthion wrth geisio cael gwasanaeth iechyd meddwl drwy'r Gymraeg.