BGT: 'Edrych ymlaen at roi Amlwch ar y map'

Mae canwr ifanc o Ynys Môn wedi sicrhau ei le yn rownd gynderfynol y rhaglen Britain's Got Talent ar ôl ennill 'Golden Buzzer' gan un o'r beirniaid.

Fe berfformiodd Gruffydd Wyn Roberts, 22 oed, o Amlwch aria enwog Giacomo Puccini, Nessun Dorma, allan o'r opera Turandot ar y rhaglen nos Sadwrn.

Roedd Amanda Holden wedi ei gwefreiddio cymaint fel y gwasgodd y botwm aur.

Mae Gruffudd nawr yn edrych ymlaen yn fawr at deithio i Lundain ymhen rhai wythnosau i gystadlu yn y rownd nesaf.