Trafod dyfodol ffrwd Saesneg ysgol ym Mhowys

Mae rhieni, athrawon a llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi cwrdd nos Lun i drafod dyfodol ffrwd Saesneg yr ysgol.

Mae'r llywodraethwyr wedi anfon llythyr at rieni yn egluro pam eu bod nhw am beidio darparu ffrwd Saesneg o fis Medi ymlaen.

Ond mae rhai o'r rhieni yn anfodlon iawn gan ddweud nad oes unrhyw ymgynghori wedi bod.

Fydd y penderfyniad ddim yn effeithio ar ddisgyblion sydd eisoes yn y ffrwd.

Adroddiad Craig Duggan.