Pryd ar glud yn 'fuddsoddiad' hir dymor i gynghorau
Gallai pobl hŷn Cymru fod "mewn mwy o berygl" wrth gael gwared â'r gwasanaeth pryd ar glud yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae Sarah Rochira yn dweud bod yna gyfrifoldeb ar yr awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn ac y gallai tocio'r gwasanaeth olygu eu bod yn fwy bregus.
Mae Iwan Williams, Arweinydd Cymunedau Llywodraeth Leol a Lles yn swyddfa'r comisiynydd yn dweud bod angen i gynghorau fuddsoddi am y bydd hyn yn "lleihau'r baich ariannol" arnynt yn yr hir dymor.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae cynghorau'n "adnabod gwerth" gwasanaethau cymdeithasol i gymunedau, ond mae cynghorau wedi "gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn" oherwydd "toriadau eithriadol".