Ras hwylio'r Volvo Ocean Race yn 'sbesial i Gaerdydd'

Mae miloedd o bobl wedi bod yn croesawu ras hwylio'r Volvo Ocean Race wrth iddi ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn ei hanes.

Mae'r cychod wedi bod yn cyrraedd Caerdydd ers oriau mân bore Mawrth, ar ôl gadael Rhode Island yn yr Unol Daleithiau ar 20 Mai.

Bydd y saith tîm a'u cychod yn aros yn y brifddinas nes cymal nesaf y ras, i Sweden, ar 10 Mehefin.

Dywedodd Bleddyn Môn o Amlwch, sy'n rasio i dîm Turn The Tide On Plastic, bod ymweliad y ras â Chaerdydd yn "ddiwrnod sbesial" i'r ddinas.