Profiad bachgen 12 oed sy'n gofalu am ei dad
Dyw ysgolion ac awdurdodau lleol ddim yn ymwybodol bod degau o filoedd o blant yng Nghymru yn ofalwyr ifanc, yn ôl elusen.
Mewn astudiaeth o wyth ysgol fe wnaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ganfod pedair gwaith y fwy o ofalwyr ifanc na'r hyn roedden nhw'n ei ddisgwyl.
Yn ôl yr elusen, mae gofalwyr ifanc yn colli tua 48 diwrnod ysgol pob blwyddyn ac yn cael canlyniadau gwaeth yn eu TGAU ar gyfartaledd.
Mae Carwyn Gumm, sy'n 12 oed, yn gofalu am ei dad Stuart, sy'n gaeth i'w gartref am gyfnodau hir ar ôl dioddef anhwylder iechyd meddwl.