Arla i gynhyrchu caws dan label Cymru yn Lloegr

Mae penderfyniad i barhau i werthu caws dan label o Gymru, pan fydd yn cael ei gynhyrchu yn Lloegr yn dilyn cau ffatri yn Sir Ddinbych, wedi cythruddo ffermwyr.

Cyhoeddodd Arla y byddai'n cau ffatri gaws yn Llandyrnog yr wythnos hon, gyda cholled 100 o swyddi.

Bwriad Arla yw symud y swyddi i'r Alban a Dyfnaint, ond bydd caws 'Cymreig' yn parhau i gael ei werthu, er ei fod yn cael ei gynhyrchu y tu allan i'r wlad yn defnyddio llaeth o Gymru.

Mae ffermwyr wedi dweud bod galw'r cynnyrch yn Gymreig yn effeithio ei hygrededd, tra bod Aelod Cynulliad wedi dweud bod angen bod yn ofalus.

Dywedodd llefarydd ar ran Arla bod y cwmni'n "ymchwilio i gyfleoedd cynhyrchu eraill" i safle Llandyrnog.

Ychwanegodd y byddai pecynnau'r caws yn egluro nad yw'r cynnyrch wedi ei wneud yng Nghymru, ond ei fod yn defnyddio llaeth o'r wlad.