Dod allan i'r gwaith 'yn ryddhad mawr'
Mae elusen Stonewall Cymru wedi codi pryderon fod pobl LHDT (LGBT) yng Nghymru'n dal i wynebu bwlio, gwahaniaethu a hyd yn oed trais yn y gweithle.
Cymerodd 825 o bobl Lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol ran mewn gwaith ymchwil, a nododd un o bob chwech eu bod wedi wynebu sylwadau neu ymddygiad negyddol o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod traean o bobl LHDT wedi cuddio'u hunaniaeth oherwydd pryderon y byddan nhw'n cael eu trin yn anffafriol.
Mae Ffion Erin Parry, 35 oed, yn ddarlithydd peirianneg mecanyddol yng Ngholeg Menai ym Mangor, ac yn trawsnewid i fod yn ferch.
Mae'n dweud ei bod yn ffodus bod ei chydweithwyr wedi bod yn gefnogol, ac mae'n awyddus i helpu eraill.