Teulu'n mynd ag ymgych cyffur ffibrosis systig i Lundain
Mae rhieni dwy ferch fach o Ddyffryn Conwy sy'n dioddef o ffibrosis systig yn galw am ganiatáu cyffur newydd i gleifion ar y gwasanaeth iechyd ym Mhrydain.
Fe fydd Alison Fare yn ymuno ag ymgyrchwyr mewn protest yn Llundain ddydd Gwener i bwyso am i gleifion gael y cyffur Orkambi.
Mae ei merched Imogen, 6, ac Annabel, sy'n 2, yn byw gyda'r cyflwr ac mae Imogen wedi danfon llythyr at y Prif Weinidog, Theresa May.
Mae'r cyffur ar gael mewn gwledydd fel America, Awstralia, a Gweriniaeth Iwerddon ac mae'r cost presennol yn fwy na £100,000 y flwyddyn i bob claf, ond mae awgrym bod trafod gyda'r cwmni sy'n cynhyrchu'r cyffur, Vertex yn profi'n rhwystredig.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn canllawiau NICE, ond fe fydd y mater yn cael ei drafod yn Senedd y Cynulliad fis nesaf wedi deiseb ar-lein ag arni dros 5,700 o enwau.