'Syniad ardderchog' ail ddefnyddio ffynhonnau hynafol
Mae tref Dolgellau yng Ngwynedd yn ystyried ailagor ffynnon hynafol er mwyn gwasanaethu cerddwyr ac i geisio annog pobl i ddefnyddio llai o boteli plastig.
Roedd ffynhonnau'n arfer bod yn adnodd pwysig i bobl oedd yn byw mewn trefi ac yn ffordd o sicrhau dŵr yfed glan.
Yn ôl cynghorydd tref Dolgellau, Ywain Myfyr ,"roedd 'na dipyn o ffynhonnau o gwmpas Dolgellau" pan oedd yn iau.
Howard Hughes yw ysgrifennydd Cymdeithas Ffynhonnau Cymru ac mae'n egluro wrth Llyr Edwards y pwysigrwydd ac arwyddocâd ffynhonnau hynafol Cymru.