'Rhaid cyfiawnhau cynnydd rhent cymdeithasol'

Mae elusen yn dweud eu bod wedi derbyn galwadau gan "gannoedd ar gannoedd" o denantiaid sy'n pryderu am gynnydd mewn rhent tai cymdeithasol.

Dywedodd Shelter Cymru wrth raglen Eye on Wales bod y cynnydd yn dilyn newid i'r fformiwla sy'n gosod prisiau rhent, gan alluogi i landlordiaid godi rhent o tua £300 y flwyddyn ers mis Ebrill.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar dai, Bethan Sayed, nad oedd cymdeithasau tai wedi cyfiawnhau'r cynnydd mewn rhent i denantiaid.