Pryder bod prinder cyfleoedd am brentisiaethau Cymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn poeni nad ydy hi bob tro'n bosib i bobl ifanc ddilyn cyrsiau prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewn llythyr at Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, mae Meri Huws yn dweud fod prinder adnoddau a staff yn rhwystro cynnydd mewn rhai meysydd.

Mae hi'n awgrymu fod angen cymryd camau pellach i geisio sicrhau fod mwy yn cael dilyn cyrsiau yn y Gymraeg.

Dyma adroddiad Sion Tecwyn.