'Prinder arian yn anodd' i'r parciau cenedlaethol

"Mae arian yn brin ac mae hi'n anodd iawn i'r parciau cenedlaethol wneud popeth gyda'r arian sydd ar gael iddyn nhw" yn ôl Cyfarwyddwr Cymdeithas Tirfeddianwyr Cymru, Rebecca Williams.

Ar y Post Cyntaf, ychwanegodd Ms Williams ei bod hi'n anodd "newid agwedd" y parciau cenedlaethol fel mae'r naturiaethwr, Iolo Williams yn ei awgrymu, gan nad oes adolygiad byw ar hyn o bryd o ran dyfodol Parciau Cenedlaethol Cymru.

O ran yr adroddiadau diweddar ar rôl a dyfodol y parciau yng Nghymru, nid yw Ms Williams yn rhagweld newid agwedd mawr ar y ffordd yma yng Nghymru.

Ond ychwanegodd fod 'na "le i edrych eto ar hynny".