Technoleg rithwir: Sut beth ydy byw gyda dementia?

Am y tro cynta' erioed, mae 'na dechnoleg rithwir - neu virtual reality - ar gael yn y Gymraeg i helpu pobl ddeall sut beth ydy byw gyda dementia.

Mae tasgau syml fel gwneud paned yn gallu bod yn heriol, ond mae'r dechnoleg newydd yma'n gobeithio agor llygaid pobl i wirionedd byw â'r cyflwr.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, Arloesi Gwynedd Wledig a Chyngor Gwynedd, mae'r feddalwedd yn "torri tir newydd a chyffrous", yn ôl Meilys Heulfryn Smith o'r cyngor.

Mae'r feddalwedd yn cael ei lansio yn Galeri Caernarfon nos Iau 5 Gorffennaf a bydd yr offer ar gael i'w arddangos i'r cyhoedd ac unrhyw grwpiau sydd â diddordeb.